Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
12 Chwefror 2015 |
Annwyl Syr / Madam
Ymgynghoriad ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)
Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).
Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Cynulliad yn:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12055
Gellir gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn Atodiad 1.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCCLlL@Cynulliad.Cymru
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 27 Mawrth 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd ymatebion gan y rhai a enwir ar y rhestr atodedig (gweler Atodiad 2). Byddem yn ddiolchgar petaech yn gallu anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Yn gywir,
Christine Chapman AC
Cadeirydd